Rhif y ddeiseb: P-06-1382

Teitl y ddeiseb: Dylid gwahardd rhyddhau balwnau

Geiriad y ddeiseb:  Mae'n ymddangos bod rhyddhau balwnau yn fwy cyffredin fyth er gwaethaf y niwed maen nhw'n ei achosi. Maent yn lladd anifeiliaid ac yn llygru a niweidio ein hamgylchedd. Mae ffyrdd llai niweidiol eraill y gall pobl anrhydeddu anwyliaid sydd wedi marw. Hyd yn oed lle mae gwaharddiadau'n bodoli, mae'n ymddangos bod awdurdodau lleol yn ofni gweithredu ar hyn.


1.        Y cefndir

Mae rhyddhau balwnau fel arfer yn cael ei wneud fel rhan o ddigwyddiad coffaol neu ddigwyddiad dathlu. Unwaith y caiff y balŵn ei ryddhau ni ellir ei reoli, fodd bynnag, a daw'n sbwriel. Gall sbwriel balwnau fod yn beryglus i dda byw a bywyd gwyllt.

Mae ymchwil gan Cadwch Gymru'n Daclus yn egluro y gall anifeiliaid gamgymryd sbwriel balwnau am fwyd, gall y sbwriel hwn greu rhwystr yn eu systemau treulio ac achosi i anifeiliaid newynu, a gall y llinyn sydd ynghlwm â balwnau ddal neu dagu anifeiliaid.

Yn yr un modd, dywed y Gymdeithas Cadwraeth Forol (MCS). y gall sbwriel balwnau gael ei fwyta gan fywyd morol, glymu rownd crwbanod môr neu adar y môr a gall arwain at farwolaeth gynamserol o ganlyniad i dagu, newynnu neu grogi. Mae'r cwmni Co-op Funeralcare yn amlygu, er bod balwnau wedi'u gwneud o blastig, rwber neu ffoil yn dadelfennu, gall eu gronynnau aros yn yr amgylchedd am ddegawdau.

Ym mis Hydref 2023 adroddwyd y bu farw morlo bychan yng Ngogledd Cymru ar ôl mynd yn sownd mewn llinyn balŵn ar draeth.

Tynnodd erthygl ddiweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru sylw at y “canlyniadau anfwriadol a difrifol i fywyd gwyllt a’u cynefinoedd” yn sgil rhyddhau balwnau:

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi derbyn sawl adroddiad am ryddhau balwnau ar rai o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Cymru neu gerllaw iddynt. Mae'r rhain yn ardaloedd sy'n gynefinoedd i rai o'n bywyd gwyllt prinnaf sydd dan fwyaf o fygythiad.

Mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn tynnu sylw y gall gadael sbwriel ar lawr gwlad arwain at ddirwy, ond nad yw gollwng balŵn neu lusern, sydd yr un mor broblemus, yn cael ei drin yn yr un ffordd.

1.1.            Camau gweithredu awdurdodau lleol

Mae nifer o awdurdodau lleol Cymru wedi gwahardd rhyddhau balwnau ar eu tir.  Fodd bynnag adroddwyd bod swyddogion awdurdodau lleol “yn wyliadwrus o anfon staff i wynebu’r rhai sy’n galaru oherwydd natur sensitif yr achlysur”.

1.2.          Dewisiadau eraill

Mae'r Co-op Funeralcare a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn amlygu y gall balwnau 'bioddiraddadwy' neu 'gyfeillgar i'r amgylchedd' gymryd blynyddoedd i ddadfeilio yn yr amgylchedd. Mae’r ddau sefydliad yn cynnig awgrymiadau ar gyfer dewisiadau eraill ar wahân i ryddhau balwnau gan gynnwys:

§    Plannu coed neu flodau;

§    Chwythu swigod;

§    Chwalu hadau blodau gwyllt; a

§    Goleuo canhwyllau.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb i'r ddeiseb hon, dywed Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd,  nad yw’n credu y byddai cyflwyno deddfwriaeth i wahardd gollwng balwnau yn gymesur ac ni fyddai gwneud hynny o fudd i'r cyhoedd:

Yn hytrach, rydym yn parhau i weithio gydag eraill i annog dulliau eraill a mwy cynaliadwy o goffáu fel y bo'n briodol. Er enghraifft, gyda'n partneriaid rydym yn hyrwyddo coetiroedd coffaol fel rhan o brosiect Coedwig Genedlaethol Cymru. Rydym hefyd wedi ysgrifennu o'r blaen at sawl sefydliad elusennol yn gofyn iddynt ystyried yr effeithiau ehangach, er enghraifft sbwriel, sy'n deillio o ryddhau balwnau yn eu digwyddiadau..

Dywedodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn ‘parhau i weithio gyda sefydliadau amgylcheddol i nodi ffyrdd ychwanegol o godi ymwybyddiaeth o’r problemau sbwriel sy’n gysylltiedig â rhyddhau balwnau, ynghyd â hyrwyddo dewisiadau eraill i’r arfer hwn, gan gofio bod y mater hwn yn un sensitif’.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Yn 2012, cafodd Pwyllgor Deisebau y Pedwerydd Cynulliad ddeiseb P-04-385, a oedd yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd i “ddeddfu yn erbyn rhyddhau balwnau a llusernau Tsieineaidd (neu awyr) i’r awyr yn fwriadol”.  Cyflwynwyd y ddeiseb gan Eco-bwyllgor Rhanbarthol Caerdydd, sef grŵp o ddisgyblion a oedd yn gynrychiolwyr o Eco-ysgolion Baner Werdd Caerdydd, a chasglodd 564 o lofnodion.

Cysylltodd y Pwyllgor Deisebau â'r Gweinidog cyfrifol ar y pryd, sef John Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy. Yn ei ateb, cydnabu'r Gweinidog risgiau posibl rhyddhau balwnau a llusernau, a dywedodd y byddai ei adran yn datblygu sylfaen dystiolaeth ar effaith rhyddhau llusernau a balwnau.

Mewn cwestiwn ysgrifenedig ym mis Tachwedd 2023, gofynnodd Darren Millar AS, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried “gwahardd yr arfer o ryddhau balwnau yn yr awyr agored, o ystyried yr effaith andwyol ar fywyd gwyllt a'r amgylchedd”. Atebodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, gan ddweud:

The Welsh Government has no plans to introduce legislation to ban balloon releases.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.